Mae’r testun isod wrthi’n cael ei wirio. Am unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â ni.
Polisi prisio a phrynu
Mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Pafiliwn Bont yn cael eu gwerthu o’r pafiliwn ei hun, mewn rhai siopau dethol yn y trefi cyfagos, neu gellir eu prynu o’n gwefan neu dros y ffôn gan ddefnyddio PayPal. Codir tâl bychan ychwanegol ar bob tocyn sy’n cael eu prynu dros y ffôn neu ar y we er mwyn talu am gostau gweinyddol. Mae pris tocynnau yn amrywio, gan ddibynnu ar y digwyddiad ei hun. Mae rhai digwyddiadau yn cynnig pris gostyngol ar gyfer plant, pensiynwyr a myfyrwyr. Holwch pan fyddwch yn prynu’ch tocyn.
Polisi dychwelyd tocynnau
Os byddwch yn methu â dod i ddigwyddiad yn Pafiliwn Bont, am ba bynnag reswm, a’ch bod yn gadael i ni wybod dim llai na 14 diwrnod cyn y digwyddiad, fe wnawn ad-dalu gwerth y tocyn drwy anfon siec i chi. Bydd sieciau yn cael eu hanfon gan ddefnyddio post ail ddosbarth. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ad-dalu gwerth unrhyw docyn os byddwch yn hwyrach na hynny cyn cysylltu â ni.
Cysylltu â’n gwasanaeth i gwsmeriaid
Os ydych yn dymuno cysylltu â ni am unrhyw reswm, neu os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth sydd wedi’i ddarparu gan Pafiliwn Bont yn ystod y broses o brynu tocyn, cysylltwch â ni ar y prif rif ffôn 01974 831 635, neu e-bostio ar
Cadarnhau eich lle
Unwaith ein bod ni wedi derbyn taliad gennych drwy PayPal bydd e-bost yn cael ei anfon atoch i gadarnhau eich taliad. Bydd y taliad yn cael ei nodi fel ‘Pafiliwn Cyfyngedig’ ar gyfriflen eich cerdyn .
Cadw eich tocyn
Bydd tocynnau sy’n cael eu prynu dros y ffôn neu’r we yn cael eu cadw yn y Pafiliwn ar gyfer eu casglu ar y noson. Ymwelwch â’n gwefan neu ffoniwch y Pafiliwn ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad i weld pryd fydd y drysau’n agor/tocynnau’n barod i’w casglu.
Polisi ad-dalu
Er gwaethaf pob ymdrech mae rhai digwyddiadau yn cael eu canslo neu eu gohirio gan hyrwyddwr, dîm, perfformiwr neu’r cwmni am amryw resymau. Os yw digwyddiad yn cael ei ganslo, cysylltwch â ni am wybodaeth ar sut i gael ad-daliad gan y sawl sy’n gyfrifol.
Telerau ac Amodau’r Tocynnau
1. Mae’r prynwr yn gwarantu fod y tocyn yn cael ei brynu at ddibenion personol yn unig, ac nad yw’n cael ei brynu at ddibenion busnes neu fasnachol, ac yn benodol, na fydd y tocyn yn cael ei ail-werthu na’i gynnig ar werth gan unrhyw un, na’i ddefnyddio at ddibenion hysbysebu, hyrwyddo nac unrhyw ddibenion masnachol eraill.
2. Eich cyfrifoldeb chi yw hi i wirio’ch tocynnau; nid yw’n bosibl i ddatrys camgymeriadau bob tro.
3. Eich cyfrifoldeb chi yw hi i weld a yw digwyddiad wedi’i ganslo, neu a yw ei ddyddiad neu ei amser wedi newid. Os bydd digwyddiad yn cael ei ganslo neu eil ail-drefnu, byddwn yn gwneud ymdrech rhesymol i roi gwybod i brynwyr tocynnau fod hynny wedi digwydd, unwaith i ni gael caniatâd unrhyw bartneriaid yn y digwyddiad i wneud hynny. Nid ydym yn gallu gwarantu y bydd prynwyr yn cael gwybod am ddigwyddiad sy’n cael ei ganslo cyn dyddiad gwreiddiol y digwyddiad.
4.Mae gan Pafiliwn Bont yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sy’n torri rheolau a rheoliadau’r pafiliwn. Yn achlysurol bydd yn rhaid i’r pafiliwn gynnal archwiliadau diogelwch er mwyn sicrhau diogelwch y rhai sy’n dod i’r digwyddiad.
5. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod sawl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael mynediad i’r digwyddiad yn ystod egwyl, ond ni allwn gadarnhau y bydd hynny’n bosibl bob tro.
6. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw docyn sy’n cael ei golli neu ei ddwyn.
7. Gwerthir tocynnau yn unol â hawl y pafiliwn i newid neu amrywio’r digwyddiad o ganlyniad i amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w reolaeth, a heb orfod ad-dalu’r arian na chyfnewid y tocynnau.
8. Ni cheir ddefnyddio unrhyw offer ffotograffig na recordio sydd wedi’i wahardd. Gallwn ddifrodi tapiau, cardiau cof neu ffilmiau sydd wedi’u defnyddio heb ganiatâd. Mae offer laser, ffonau symudol, cŵn (ar wahân i gŵn tywys) wedi’u gwahardd hefyd.
9. Nid yw Pafiliwn Bont yn cymryd cyfrifoldeb am eiddo personol unrhyw unigolyn.
10. Mae gan brynwr tocyn yr hawl i’r sedd sydd wedi’i nodi ar ei docyn, ac mae Pafiliwn Bont yn cadw’r hawl i ddarparu sedd sy’n wahanol i’r rheiny sydd wedi’u nodi ar y tocyn lle bo hynny’n rhesymol.
11. Ni cheir defnyddio un tocyn gan fwy nag un person drwy gyfnewid tocyn y tu allan i ffiniau’r pafiliwn.
12. Drwy brynnu tocyn rydych yn rhoi’r hawl i fod yn rhan o ffilmio a recordio sain fel aelod o’r gynulleidfa.
Polisi Preifatrwydd
Mae Pafiliwn Bont yn sylweddoli bod ennill a chadw eich ymddiriedaeth y hynod bwysig ac mae’n gyfrifoldeb rydym yn ei gymryd o ddifrif.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi ein polisïau yn ymwneud â chasglu, defnyddio ac amddiffyn gwybodaeth bersonol ynghylch y sawl sy’n defnyddio gwefan a gwasanaethau Pafiliwn Bont. Mae gwybodaeth bersonol yn golygu gwybodaeth y gellir ei chysylltu ag unigolyn penodol, megis enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a rhif cerdyn credyd.
Rydym yn eich annog i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd isod. Dylech wybod na fydd eich gwybodaeth bersonol byth yn cael ei rannu â thrydydd parti.
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio’r canlynol:
Pa wybodaeth bersonol y mae Pafiliwn Bont yn ei gasglu gen i a sut y defnyddir y wybodaeth hon?
Pan fyddwch yn pori ein gwefan, nid oes yn rhaid i chi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol i ni oni bai eich bod yn dewis prynu tocyn yn y modd sy’n cael ei ddisgrifio isod.
Prynu tocyn
Er mwyn prynu tocyn dros y ffôn neu ar y we, mae’n rhaid i chi roi rhai manylion personol megis eich enw, rhif eich cerdyn credyd, dyddiad dibennu’r cerdyn, cyfeiriad sydd ynghlwm â’r cerdyn, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost. Os ydych yn prynu tocynnau i rywrai eraill, bydd angen i chi sicrhau fod y rheiny yn cytuno i hynny ymlaen llaw, a’ chytuno eich bod yn datgelu eu manylion personol nhw i ni. Defnyddiwn system Virtual Terminal cwmni PayPal i gymeryd manylion eich cerdyn dros y ffôn. Mae’r manylion hynny’n cael eu bwydo yn syth i’r rhaglen honno, nid ydym byth yn ysgrifennu’r manylion ar bapur, ac unwaith y mae’r taliad yn cael ei wneud mae’r wybodaeth yn cael ei dileu, ac ni allwn weld y manylion hynny eto. Dim ond nifer cyfyngedig o weithwyr perthnasol sydd yn cael defnyddio’r system hon i werthu tocynnau. Defnyddir meddalwedd i ddiogelu’n systemau cyfrifiadurol i leihau hyd yr eithaf y posibiliad y bydd rhywun yn cael mynediad at wybodaeth sensitif tra ein bod yn gweithio arnynt, ac nid oes manylion ynglŷn â’ch cerdyn credyd fyth yn cael eu cadw’n ganolog gennym ni. Adolygwn ein gweithdrefnau’n ymwneud â’r materion hyn yn gyson.
Cofrestru Cwsmeriaid
Er mwyn prynu tocynnau, mae’n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ni am sawl rheswm yn cynnwys: (i) er mwyn cadarnhau pwy ydych chi; (ii) ein galluogi i gysylltu â chi at ddibenion gwasanaeth i gwsmeriaid, os bydd angen; (iii) i addasu cynnwys ein gwefan i ateb eich gofynion chi; ac (iv) i wneud gwelliannau i’n gwefan. Yn ogystal, mae angen eich cyfeiriad e-bost arnom er mwyn cadarnhau eich bod wedi prynu tocyn neu wasanaeth arall ar ein gwefan. Fel cwsmer i Pafiliwn Bont byddwch hefyd yn cael e-byst gennym o bryd i’w gilydd yn rhoi manylion digwyddiadau eraill neu newyddion o’r pafiliwn. Gallwch ddewis, ar unrhyw adeg, i beidio â derbyn yr e-byst hyn ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost atom yn gofyn hynny :