Blwyddyn Newydd Dda.
Mae’r flwyddyn newydd yn cychwyn yma gyda Rali Ceir Tacsis Caron. Bydd y ceir yn cychwyn a gorffen yn y Pafiliwn.
Mae’n bleser gennym hefyd i gyhoeddi y bydd Eisteddfodau Sir yr Urdd yn cael eu cynnal yma eleni eto.
Yn dilyn llwyddiant Miri Mis Bach y llynedd - digwyddiad a drefnwyd gan Cymunedau yn Gyntaf Pentrefi Ucheldir Ardal Tregaron - mae’n braf i weld y bydd yn dychwelyd yma eleni eto ond bach yn hwyrach felly bydd yn cael ei alw yn Miri Mis Mawrth.
Cynhelir Gwyl y Cwircs ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Ebrill - ac mae’r Grwp Datblygu yn brysur yn paratoi ar gyfer digwyddiad arbennig iawn a fydd yn rhan o’r Wyl eleni. Bydd manylion y digwyddiad mawr ar y wefan yma yn y dyfodol agos.
Ar benwythnos Gwyl y Banc (Mai) fydd Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid. Yn dilyn hwn fydd y Ddawns Fai flynyddol myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Ym mis Mehefin bydd Cor Glannau Ystwyth yn cynnal cyngerdd arbennig yma i ddathlu deugain mlynedd.
Y GIG MAWR eleni fydd dathliad hanner can mlynedd ers sefydlu Cymdeithas yr Iaith ym mis Gorffennaf.
Felly dyna fraslun o’r amrywiaeith o ddigwyddiadau fydd yn y Pafiliwn yn ystod hanner cyntaf 2012.
Yr ydym hefyd wedi derbyn bwcings ar gyfer priodasau, ciniawe a chynhadleddau, felly os oes diddordeb gyda chi i gynnal digwyddiad yma, codwch y ffon neu e-bostiwch y Pafiliwn drwy’r manylion cyswllt isod:
01974 831635 neu 831658; e-bost: ;
Diolch a hwyl am y tro
Diane
Ewch draw i’r dudalen Llogi adeilad i weld ein ffolder newydd am ragor o wybodaeth eto!