Bjorn to Rock
Grwp teyrnged gorau ABBA Cymru ac yn nawr.. Grwp teyrnged gorau ABBA Prydain. Mae’r syniad y tu cefn i sefydlu Bjorn to Rock wedi cael ei feddwl trwyddo yn drwyadl gan aelodau sylfaenol y grwp, Peter a Louise Lloyd, a’r bwriad oedd i gyflwyno’r caneuon poblogaidd, gan ychwanegu bach o ddylanwad cerddoriaeth roc ond heb golli tamaid o wir naws ABBA. Mae aelodau Bjorn to Rock wedi bod mewn grwpiau teyrnged poblogaidd ABBA eraill ac maent i gyd yn broffesiynnol iawn a’u talentau unigol yn cael eu adlewyrchu yn eu perfformiadau. Dyma cyfle arbennig i chwi weld y grwp yn fyw yn y Bont, maent yn y Pafiliwn ar nos Sadwrn 27 o Fawrth am 8pm. Tocynnau ar werth nawr am £10 - o swyddfa docynnau’r Pafiliwn neu £11 drwy PayPal.
Eisteddfodau
Mae tymor yr eisteddfodau wedi cyrraedd ac mae’n flwyddyn bwysig iawn i Sir Ceredigion wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ymweld a hi. Bydd y Pafiliwn yn gartref i Eisteddfod Sir yr Urdd (Cynradd) ar y 13eg o Fawrth, Eisteddfod Dawns Sir yr Urdd ar yr 17eg o Fawrth, ac Eisteddfod Sir yr Urdd (Uwchradd) ar y 19eg o Fawrth.
Yna cynhelir Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid yma dros penwythnos Gwyl Banc Calan Mai, yn cychwyn ar nos Wener 30 Ebrill, yna ar ddydd Sadwrn y 1af a dydd Llun y 3ydd o Fai. Bydd Talwrn y Beirdd yn Bar y Pafiliwn nos Sul yr 2il o Fai am 7.30pm gyda’r Meurynau: y Prifeirdd Hywel Griffiths a Meirion Macintyre Huws.
Bwmerang yn ffilmio ‘Cyfnewid’
Mae cwmni teledu Bwmerang wrthi yn ffilmio rhaglenni ar gyfer ei cyfres newydd ‘Cyfnewid’ ac y byddant yn ymweld a’r Pafiliwn i ffilmio un o’r rhaglenni hyn ar ddydd Sul 11fed o Ebrill. Mwy o fanylion yn fuan.
Gwyl y Cwircs a’r Crefftwr
Cynhelir yr ail Gwyl y Cwircs a’r Crefftwr yma ar ddydd Sadwrn yr 19 o Fehefin. Trefnir y digwyddiad gan Grwp Datblygu Ystrad Fflur ac unwaith eto fe fydd yn ddiwrnod llawn hwyl a sbri gyda nifer o gystadleuthau cwircy i’r teulu cyfan. Bydd yno stondinau planhigion a chrefftau hefyd. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn hir.
Gwyl Tolkien yn dod i’r Pafiliwn
Bydd Gwyl Tolkien cyntaf Cymru yn digwydd ar y 13eg, 14eg a 15ed o Awst 2010. Cewch wybodaeth llawn am yr Wyl ar ei gwefan http://www.festivalintheshire.com
Gobeithiwn eich gweld yn fuan.
Hwyl gan Diane
Ewch draw i’r dudalen Llogi adeilad i weld ein ffolder newydd am ragor o wybodaeth eto!