|
Cyfleusterau Pafiliwn Bont Mae safle, adeilad a chyfleusterau Pafiliwn Bont yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth sy’n bodloni ystod eang o ofynion. Mae lleoliad canolog y pafiliwn yn golygu ei fod cwta dwy awr o siwrnai o Gaernarfon neu Gaerdydd, a rhyw 25 munud o Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan. Wedi i chi ein cyrraedd mae yma le i 300 o geir ac 20 o fysus barcio am ddim, gan sicrhau na fydd yn rhaid i chi boeni am gael tocyn, a’ch galluogi i roi eich meddwl ar eich gwaith neu ar fwynhau! |
|
Bar-lolfa a Chyntedd Mae’r Bar a’r Cyntedd yn rhan flaen y Pafiliwn a gellir eu defnyddio fel un adnodd neu eu defnyddio ar wahân. Mae’r cyntedd yn ardal olau braf a thrawiadol sy’n taro’r nodyn cywir wrth i bobl gyrraedd y ganolfan. Mae wedi ei thrwyddedu felly mae modd ei defnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau.
|
|
Auditorium Dyma brif ran yr adeilad a lleoliad perffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr. Mae’r Awditoriwm wedi ei drwyddedu ar gyfer 2200 o bobl yn sefyll. Mae hefyd modd amrywio maint yr Awditoriwm enfawr a’i dorri’n hanner ar gyfer cynulleidfaoedd llai. Yn draddodiadol, prif ddefnydd yr Awditoriwm yw llwyfannu cyngherddau, eisteddfodau a gigs ond erbyn hyn mae hefyd yn addas ar gyfer sioeau masnach; gweithgareddau a chystadlaethau chwaraeon; ciniawau mawr; a dramâu. Mewn gwirionedd mae’n ystafell mor fawr a hyblyg fel bod modd ei defnyddio ar gyfer bron â bod unrhyw beth. Mae maint yr Awditoriwm, a’r llawr fflat newydd, hefyd yn ei wneud yn addas iawn i gwmnïau teledu ei ddefnyddio. Mae rhai cwmnïau eisoes wedi defnyddio’r Pafiliwn gan nodi fod yr adnoddau’n wych ar gyfer eu hanghenion. |
|
Yr Ardal Cefn Llwyfan Mae cefn llwyfan yr Awditoriwm yn cynnwys yr holl adnoddau a ddisgwylir mewn canolfan adloniant proffesiynol, ond fel gweddill yr adeilad mae hefyd yn ardal hyblyg y gellir ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau amrywiol. Ceir nifer o ystafelloedd newid proffesiynol, toiledau a chawodydd yn ogystal ag ystafell werdd fawr gyda lle i tua 100 o bobl. Fel y Bar a’r Cyntedd, mae modd llogi’r ystafell werdd ar gyfer digwyddiadau llai megis dangosiadau ffilm, sesiynau hyfforddi neu gigs a chyngherddau llai. |