Pafiliwn Bont Tel 01974 831635
English Version of the page
Beth Sydd Mlaen Acceptance Mark

Archebwch eich tocynnau gan ddefnyddio PayPal - mae'n gyflym ac yn ddiogel

Darllenwch ein polisïau cyn archebu tocynnau.

image

Eisteddfodau Sir yr Urdd

13, 17, 19 Mawrth


Bydd y Pafiliwn yn gartref i eisteddfodau sir yr Urdd 2010 yn ystod mis Mawrth. Ar y 13eg o Fawrth cynhelir Eisteddfod Sir yr Urdd (ysgolion cynradd), yna ar yr 17eg bydd Eisteddfod Dawns y Sir, ac i gloi ar y 19eg cynhelir Eisteddfod Sir yr Urdd (ysgolion uwchradd).


image

Ein Cymuned Ein Dyfodol

Dydd Gwener 26 Mawrth
4pm - 10.30pm

Digwyddiad Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf. Cyflwyniadau, Gwybodaeth, Sioe Lluniau, ac Arddangosfeydd sydd yn amlygu gwaith Cymunedau yn Gyntaf. Gweithgareddau yn cynnwys: Gemau Wii, Sgiliau Syrcas, Sgiliau DJ, Cystadleuaeth 'Ready Steady Cook', Adloniant Cerddorol, a llawer mwy.... Lluniaeth ar gael, a bar o 7pm


image

Bjorn to Rock

Nos Sadwrn 27 Mawrth
8pm

Dewch i fwynhau band tribiwt Abba gorau Cymru yn eu perfformiad cyntaf yn y Pafiliwn gyda noson yn llawn clasuron y grwp hynod o boblogaidd o Sweden. Mae aelodau Bjorn to Rock i gyd wedi dod o grwpiau tribiwt enwog Abba eraill ym Mhrydain ac mae eu proffesiynoldeb yn dod i'r amlwg yn eu perfformiad.

Tickets: £11.00
Rhoi yn y fasged


image

Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen

30 Ebrill - 3 Mai


Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid 2010: Dydd Gwener 30 Ebrill o 4pm, Dydd Sadwrn 1 Mai o 12 o'r gloch canol dydd, Dydd Llun Gwyl Calan Mai, 3 Mai o 2pm. Bydd y Gystadleuaeth Gorawl ar ddydd Sadwrn 1af o Fai gyda gwobrau o £3,000 i'r cyntaf, £2,000 i'r ail a £1,000 i'r trydydd. Bydd pob cor anfuddugol yn cael £100. Manylion pellach wrth Selwyn a Neli Jones rhif ffon: 01974 831 695


image

Talwrn y Beirdd

Dydd Sul 2 Mai
7.30pm

Digwyddiad poblogaidd iawn sy'n rhan bwysig o Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen sef Talwrn y Beirdd. Cynhelir y Talwrn ym Mar y Pafiliwn.


Awst

13 - 15 Awst
Gwyl yn y Sir
Dathliad am bopeth yn ymwneud a Tholkien
mwy o wybodaeth