![]()
Adeiladwyd Pafiliwn ‘Bont’ yn wreiddiol yng nghanol y 1960au gan wr o’r enw Syr David James, a fagwyd ar fferm Pantyfedwen yn y pentref. Roedd yn ddyn busnes llwyddiannus yn Llundain a oedd yn berchen ar nifer o sinemâu, ond roedd yn benderfynol o wella cyfleoedd cymdeithasol ei bentref genedigol a chyfrannodd lawer iawn o arian tuag at ddatblygu maes criced, neuadd snwcer, llyfrgell ac adnoddau eraill yn y gymuned.
Bu iddo hefyd annog pobl Pontrhydfendigaid i sefydlu Eisteddfod eu hunain gan gyfrannu gwobrau ariannol hael. Wedi rhai blynyddoedd penderfynodd adeiladu Neuadd Gyngerdd enfawr i gartrefu’r Eisteddfod a digwyddiadau eraill. Ei freuddwyd oedd rhoi pentref ‘Bont’ ar y map a gweld yr Eisteddfod yn cael ei chynnal mewn neuadd gyngerdd broffesiynol yn hytrach na phabell neu neuadd bentref. Gwaetha’r modd, bu farw Syr David James cyn agor y Pafiliwn ym 1967.
Dros y blynyddoedd datblygodd y Pafiliwn i fod yn ganolfan hynod boblogaidd i gynnal digwyddiadau diwylliannol o bob math, gan ddenu miloedd o bobl o bob cwr o Gymru. Roedd yn gyfnod cyffrous i’r sin bop ac roedd cymaint £4000 o bobl ifanc yn mynychu cyngherddau’n gyson ym mhentref Bont. Roedd y Pafiliwn hefyd yn denu digwyddiadau mwy amrywiol megis wreslo, sioeau teledu, dramâu, dawnsfeydd a cherddoriaeth roc a gwerin.
Yn anffodus, yn sgil diffyg cyllid i gynnal a chadw, dirywiodd statws y Pafiliwn ymysg y cyhoedd ac fe ddirywiodd yr adeilad ei hun. Canlyniad hyn oedd cau’r Pafiliwn yn 2000 ar ôl methu ennill trwydded adloniant oherwydd diffygion trydanol. Yn fuan wedyn cafodd ei ddifrodi gan dân.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae criw o wirfoddolwyr lleol wedi ymdrechu’n galed i gasglu arian i ailddatblygu’r Pafiliwn. O’r diwedd daeth llwyddiant wrth ffurfio Pafiliwn Cyf, yn gwmni cyfyngedig, gan godi ymron i £1.7m i ailadeiladu’r Pafiliwn ar ei newydd wedd. Dechreuodd y gwaith yn gynnar yn 2005 ac roedd yr adeilad yn barod i’w ddefnyddio erbyn Eisteddfod Pantyfedwen ym mis Mai 2006. Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus a phawb yn canmol yr adnodd newydd.